Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 16 Ebrill 2018

Amser: 14.00 - 17.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4741


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Lee Waters AC

Tystion:

Andrew Griffiths, NHS Wales Informatics Service (NWIS)

Steve Ham, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mark Jeffs

Mike Usher

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1 Yn dilyn ystyriaeth yr Aelodau, cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach am heriau digideiddio a chaffael cyhoeddus.

</AI2>

<AI3>

2.1   Heriau Digideiddio: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (4 Ebrill 2018)

</AI3>

<AI4>

2.2   Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Gwybodaeth ychwanegol gan CLLC (Ebrill 2018)

</AI4>

<AI5>

2.3   Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Gwybodaeth ychwanegol gan y Rhwydwaith Maethu (Ebrill 2018)

</AI5>

<AI6>

2.4   Caffael Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (20 Ebrill 2018)

</AI6>

<AI7>

3       Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16

3.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a'r ffaith y bydd diweddariad pellach cyn toriad yr haf.

</AI7>

<AI8>

4       Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog

4.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu a'r ffaith y darperir diweddariad pellach ym mis Medi.

 

</AI8>

<AI9>

5       Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Ystyried ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

5.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ymatebion i'r argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor a'u nodi.

5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac at Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda sylwadau'r Pwyllgor ar eu hymatebion.

 

</AI9>

<AI10>

6       Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

6.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodaeth Cymru a chan Steve Ham, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.

6.2 Cytunodd Steve Ham i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd.

</AI10>

<AI11>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI11>

<AI12>

8       Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI12>

<AI13>

9       Adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit: Llythyr gan y Llywydd (16 Mawrth 2018)

9.1 Trafododd yr Aelodau lythyr y Llywydd a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb gyda'u barn.

</AI13>

<AI14>

10   Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

10.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Heads of the Valleys Development Company a'r ffaith y disgwylir ymateb yn nes ymlaen yr wythnos hon gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

10.2 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft arall mewn cyfarfod o'r Pwyllgor.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>